logo Ysgol Cymerau

Y Gymuned

plantBocsys Nadolig 2016

Bu'r plant yn brysur yn llenwi hen focsys esgidiau gyda anrhegion i gefnogi ymgyrch Teams4u sy'n rhannu'r rhoddion rhwng plant tlotaf dwyrain Ewrop. Yn yr ysgol casglwyd 70 o focsys i gyd.

Cliciwch yma weld mwy o luniau


plant04.10.16 Cefnogi Elusen Macmillan

Bore Gwener Medi 30ain cynhaliwyd bore coffi Macmillan yn neuadd yr Ysgol. Daeth nifer o ffrindiau'r ysgol i gefnogi a hefyd gwerthwyd cacennau i'r disgyblion. Casgwlyd £560 tuag at yr elusen. Diolch i bawb am gefnogi! Cliciwch yma am fwy o luniau


plantDiwrnod Ffrengig

Ar Fehefin y 10fed bu'r disgyblion yn dathlu Cymru yn yr Ewro 2016 drwy gynnal diwrnod Ffrengig yn yr ysgol. Cafwyd cinio arbennig a gwisgodd y plant ddillad Ffrengig.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 

Mae Ysgol Cymerau a Choleg Meirion Dwyfor yn cydweithio'n agos iawn ar hyn o bryd er mwyn cynnig Cwricwlwm Amgen i ddisgyblion Blwyddyn 6 ar gyfer mis Mai 2016.

Mewn partneriaeth â Phennaeth Canolfan Ehangu Mynediad, Prifysgol Bangor, ein bwriad yw cynnig sesiynau blasu megis:

  • Technoleg Forol
  • Adeiladu
  • Astudiaethau Ceffylau
  • Cyfrifiadura a Thechnoleg Gwybodaeth
  • Gofal ac Anifeiliaid
  • Amaethyddiaeth
  • Trin Gwallt a Therapi Harddwch
  • Yr Heddlu a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Lletygarwch ac Arlwyo
  • Peiranneg Cerbydau Modur

Fel rhan o weithgareddau Cwricwlwm Amgen yr ysgol, rydym wedi trefnu dyddiadau ar gyfer Blwyddyn 6 i ymweld â Cholegau Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli, Dolgellau a Glynllifon.

Bwriad yr ymweliadau yw i roi blas i’r plant o’r math o gyrsiau sydd ar gael iddynt a phwysigrwydd Llythrennedd a Rhifedd yn eu gyrfaoedd.

Bydd y plant yn cael cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithdai gwahanol megis Harddwch a Thrin Gwallt, Arlwyo, Adeiladwaith, Iechyd a Gofal, Busnes, Peirianneg Morwrol, Amaeth, Peirianneg a Gofal Anifeiliaid. Mi fydd angen pecyn bwyd, gwisg ysgol Cymerau a châs pensiliau ar gyfer y tri diwrnod. Gweler isod yr amserlen ar gyfer yr ymweliadau:

 

Coleg Dyddiad Amser cychwyn Amser dychwelyd
Dolgellau Dydd Llun 23/5/16 8:45a.m 3:45p.m
Pwllheli Dydd Mawrth 24/5/16 9:00a.m 3:45p.m
Glynllifon Dydd Iau 26/5/16 9:00a.m 3:45p.m

 

Logo Grwp Llandrillo MenaiCliciwch yma am Brospectws Coleg Meirion-Dwyfor 15/16